Y Pwyllgor Menter a Busnes
Enterprise and Business Committee

                                                                                                        

 

Huw Lewis AC

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Llywodraeth Cymru

 

 

21 Hydref 2014

Annwyl Weinidog

 

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

 

Diolch am ddod i gyfarfod y Pwyllgor Menter a Busnes ar 16 Hydref ac am ymateb i'r llythyr a anfonwyd gennyf ar 24 Gorffennaf 2014, a oedd yn gofyn am wybodaeth am wariant ataliol, polisïau allweddol, blaenoriaethu ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu a darpariaeth ar gyfer deddfwriaeth.

 

Mae'r gwaith craffu eleni wedi canolbwyntio'n bennaf ar flaenoriaethau'r gyllideb a gwerth am arian. Mae ein gwaith craffu wedi ystyried hefyd a yw eich polisïau wedi cyfrannu at gyflawni eich tair thema drawsbynciol, sef swyddi a thwf, cyrhaeddiad addysgol a chefnogi plant, teuluoedd a chymunedau difreintiedig.

 

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ichi eu hystyried ac ymateb iddynt.

 

Rydym hefyd yn anfon y llythyr hwn at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid er mwyn llywio gwaith craffu strategol a chyffredinol y Pwyllgor hwnnw ar y gyllideb ddrafft. Bydd y llythyr hwn a'ch ateb chi yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

 

Cylch gwaith y Pwyllgor – Addysg Bellach

 

Mae'n werth nodi'n glir fod addysg bellach yn bennaf o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sy'n gyfrifol am graffu ar ddysgu ymhlith pobl ifanc 14-19 oed.  Fodd bynnag, mae sgiliau, cymwysterau galwedigaethol, dysgu yn y gymuned i oedolion a dysgu seiliedig ar waith oll o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Menter a Busnes. Felly, mae addysg bellach yn berthnasol i waith craffu'r Pwyllgor hwn, o ran ei berthynas â'r agenda sgiliau a'r economi.

 

1. Gan fod y colegau addysg bellach yn un o'r darparwyr allweddol o ran dysgu seiliedig ar waith, hoffai'r Pwyllgor gael rhagor o fanylion am yr effaith y bydd y gostyngiadau mewn cyllid yn ei chael ar allu colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau galwedigaethol.

 

2. Nodwn, yn ôl yr Asesiad Integredig Strategol o Effaith gan Lywodraeth Cymru, y bydd yr effaith ar ddysgwyr 19 oed a hŷn yn waeth na'r effaith ar rai 16-18 oed. Mae gan y Pwyllgor rai pryderon ynghylch yr effaith bosibl ar yr economi yng Nghymru a'r agenda sgiliau ac mae'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i ystyried goblygiadau'r ffordd y mae wedi blaenoriaethu'r arian sydd ar gael.

 

Prentisiaethau

 

Yn sgil y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer prentisiaethau, amcangyfrifodd y Dirprwy Weinidog a'i swyddogion y bydd nifer y rhai sy'n dechrau prentisiaethau o'r newydd yn disgyn i lefel o 17,000-19,000, o gymharu ag uchafbwynt o 28,000 ym mlwyddyn academaidd 2012/13. Mynegwyd pryderon gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru y byddai nifer y dechreuwyr newydd yn gostwng yn fwy nag amcangyfrif y Dirprwy Weinidog, ond dywedodd y Dirprwy Weinidog y dylai'r £5 miliwn o arian ychwanegol olygu bod modd cyrraedd yr amcangyfrif.

 

3. Hoffem gael sicrwydd bod ffigur y Dirprwy Weinidog o ran nifer y dechreuwyr newydd ar gyfer 2015/16, sef 17,000-19,000, wedi cael ei amcangyfrif yn gywir a gofynnwn hefyd am eglurhad o'r ffordd y caiff y ffigur hwn ei fonitro yn y dyfodol.

 

4. Mae'r uchafbwynt o ran dechreuwyr newydd a gofnodwyd ym mlwyddyn academaidd 2012/13, sef 28,000, llawer yn fwy na nifer y dechreuwyr newydd a gofnodwyd mewn unrhyw flwyddyn academaidd arall ers dechrau'r cynllun prentisiaeth. Hoffem gael cadarnhad a gynhaliwyd arfarniad datblygu cynaliadwy cyn i gynllun Prentisiaeth Llywodraeth Cymru gael ei roi ar waith.

 

5. Hoffem gael cadarnhad hefyd a oes cronfa wrth gefn ar gyfer arian ychwanegol os na chyrhaeddir yr amcangyfrif ar gyfer dechreuwyr newydd ym mlynyddoedd academaidd 2014/15 neu 2015/16.

 

6. Hoffem ddadansoddiad o nifer amcangyfrifedig y dechreuwyr newydd ar gyfer 2015/16 yn y meysydd blaenoriaeth priodol (Prentisiaethau Uwch a phobl ifanc 16-24 oed) a'r meysydd nad ydynt yn flaenoriaeth, fesul sector.

 

Cydraddoldeb

 

Rydym yn pryderu am effeithiau negyddol posibl cynigion y gyllideb ar brentisiaethau i bobl dros 25 oed, yn enwedig dysgwyr sy'n fenywod.

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal i werthuso effaith y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer prentisiaethau yn 2015-16. Dangosodd yr asesiad hwn fod y sefyllfa rhwng y rhywiau ychydig yn fwy cyfartal erbyn hyn mewn prentisiaethau y mae menywod wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol. Fodd bynnag, nid oedd fawr ddim tystiolaeth i ddangos bod y sefyllfa rhwng y rhywiau wedi newid o gwbl mewn prentisiaethau y mae dynion wedi bod yn flaenllaw ynddynt yn draddodiadol.

 

7. Hoffem gael rhagor o fanylion am sut yr ydych yn bwriadu monitro a gwerthuso effaith cynigion y gyllideb ar y cohort sy'n hŷn na 25 oed a'r anghydraddoldebau posibl rhwng y rhywiau.

 

Twf Swyddi Cymru

 

Mae cyllideb ddrafft 2015-16 yn dangos gostyngiad yn y cyllid ar gyfer Twf Swyddi Cymru i £9.3 miliwn. Yn ôl eich papur, bydd hyn yn arwain at 15% neu 600 yn llai o gyfleoedd yn 2015-16, er bod targed Llywodraeth Cymru o ddarparu 16,000 o gyfleoedd dros 4 blynedd wedi'i fodloni. Yn ystod y sesiwn graffu ar y gyllideb, dywedodd y Dirprwy Weinidog y byddai'r gostyngiad mewn cyllid yn arwain at lai o ddechreuwyr newydd yn 2015-16, ac awgrymodd y byddai'r niferoedd yn lleihau rywfaint yn ystod y flwyddyn (2014-15).

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog yn ei thystiolaeth:

“We believe that the in-year cuts will cause around 1,000 fewer starts  and around 600 otherwise; so, around 1,500 or 1,600.”

 

8. Hoffem gael eglurhad ynghylch faint yn llai o ddechreuwyr newydd a ragwelir; faint y bydd y niferoedd yn lleihau yn ystod y flwyddyn yn 2014-15, a faint y byddant yn lleihau yn 2015-16.

 

9. Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb yn y ffordd y bydd y gostyngiad yn nifer y cyfleoedd yn effeithio ar elfennau gwahanol y rhaglen. Hoffem hefyd gael dadansoddiad o faint yn llai o gyfleoedd a ragwelir fesul elfen, o ran y sector preifat, y trydydd sector, hunangyflogaeth a graddedigion a chadarnhad a oes unrhyw un o'r elfennau hyn wedi'u blaenoriaethu yng nghyllid 2015-16.

 

10. At hynny, a oes unrhyw sectorau diwydiant penodol wedi'u blaenoriaethu o ran creu cyfleoedd Twf Swyddi Cymru?

 

Cyllid Ewropeaidd

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod trafodaethau wedi'u cynnal â Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) a'i fod yn cytuno â chynnydd yn y cyfraddau ymyrryd a fydd yn fodd i sicrhau rhagor o arian o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd nag a fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod adolygiad ar raddfa fawr o brosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop wedi'i gynnal a arweiniodd at ad-drefnu'r arian er mwyn canolbwyntio ar brosiectau penodol.

 

11. Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am y potensial ar gyfer cyfraddau ymyrraeth gwell a gafodd eu hail-negodi gyda WEFO a byddem hefyd yn croesawu gwybodaeth bellach am sut y defnyddiwyd cronfeydd Ewropeaidd i sicrhau mwy o werth am arian yn dilyn yr adolygiad o brosiectau Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Dysgu Seiliedig ar Waith yn y sector Gofal Cymdeithasol

 

Hoffai'r Pwyllgor dynnu sylw at bwysigrwydd datblygu gweithlu gofal cymdeithasol a denu pobl ifanc yn arbennig i weithio yn y sector.  Mae'r Pwyllgor yn ymwybodol bod camau'n cael eu cymryd yng nghyswllt cyd-fuddsoddiad mewn sgiliau a hyfforddiant ar ôl 19 oed gan y llywodraeth a chyflogwyr, ond mae'n credu y dylai'r grŵp oedran 16 i 18 oed hefyd gael ei dargedu ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a phrentisiaethau yn y sector gofal cymdeithasol. Rhoddodd y Dirprwy Weinidog ymateb cadarnhaol i'r awgrym o weithio gyda Fforwm Gofal Cymru ar y mater hwn, gan ddatgan ei hymrwymiad i gynnal trafodaethau â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

 

12. Byddem yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw drafodaethau a gynhaliwyd gyda sefydliadau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol ac yn Llywodraeth Cymru ar y mater o dargedu'r grŵp oedran 16-18 oed ar gyfer prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith.

 

Addysg Uwch

 

Rydym yn ymwybodol o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd gan yr Athro Syr Ian Diamond i gyllid addysg uwch yng Nghymru, yn ogystal â Bil Addysg Uwch (Cymru) sy'n cynnig newidiadau i'r drefn lywodraethu.

 

13. Byddem yn dal yn hoffi cael eglurhad pellach am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau a monitro, gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), bod blaenoriaethau'r Gweinidog ar gyfer y sector addysg uwch yn cael eu cyflawni, yn enwedig astudiaethau ôl-radd, ariannu gwaith ymchwil, STEM, pynciau drud, mentrau ehangu mynediad a monitro sut mae gwerth am arian yn cael ei gyflawni.

 

Entrepreneuriaeth Ieuenctid

 

Bydd y Gweinidogion yn ymwybodol o bwysigrwydd entrepreneuriaeth ieuenctid i'r Pwyllgor hwn ar ôl cynnal ymchwiliad a chyhoeddi adroddiad ar y pwnc hwn ym mis Tachwedd 2013.

 

Er ein bod yn gwerthfawrogi bod cyllid yn ei le, yn ôl y wybodaeth a ddarparwyd gan y Gweinidog, nid oes cyllideb benodedig i gefnogi Cynllun Gweithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid.

 

14. Byddem yn gwerthfawrogi rhagor o fanylion am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod Entrepreneuriaeth Ieuenctid yn cael blaenoriaeth mewn cyllidebau eraill a sut y caiff yr effaith ar hyrwyddo entrepreneuriaeth ieuenctid ei gwerthuso.

 

 

 

 

Gyrfa Cymru

 

Cafwyd gostyngiad sylweddol yng nghyllideb Gyrfa Cymru o £10.5 miliwn yn 2015-16 (-34%) o gymharu â Chyllideb Atodol 2014-15. O ganlyniad i gynigion y gyllideb, rydych chi a'r Dirprwy Weinidog wedi sôn am yr angen am newid yng nghylch gwaith Gyrfa Cymru, gan newid ffocws i ganolbwyntio ar wasanaethau ar-lein.

 

15. Gyda'r Aelodau yn codi pryderon am symud i ffwrdd o wasanaethau wyneb-yn-wyneb at fwy o ddarpariaeth ar-lein, rydym yn croesawu cytundeb y Dirprwy Weinidog i adolygu'r sefyllfa os bydd y galw am wasanaethau wyneb-yn-wyneb yn fwy nag amcangyfrifon Llywodraeth Cymru.

 

16. Byddem yn hoffi rhagor o fanylion am sut yr ydych yn bwriadu gwerthuso a monitro effaith y toriadau yn y gyllideb ar y grwpiau hynny sy'n defnyddio gwasanaethau Gyrfa Cymru, yn enwedig yn sgil newid ffocws i ganolbwyntio ar wasanaethau ar-lein.

 

Diolch am gynorthwyo'r Pwyllgor yn ei waith craffu, ac edrychwn ymlaen at gael eich atebion i'r pwyntiau a godwyd yn y llythyr hwn cyn gynted â phosibl.

 

Yn gywir,

 

Description: WG Signature

 

William Graham AC

Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Copi at:       Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid